7444
Ym mis Hydref 2022, bydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal gwrandawiad gyda’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Comisiynydd y Gymraeg.
1. Diben y sesiwn hon yw gwella tryloywder y broses o wneud penodiadau cyhoeddus a rhoi cyfle i'r ymgeisydd a ffefrir gael profiad o waith craffu seneddol a chyhoeddus. Bydd adroddiad ar y sesiwn yn cael ei anfon at y Gweinidog sy'n gyfrifol am wneud y penodiad
2. Er mwyn helpu i lywio’r paratoadau ar gyfer y sesiwn cyn penodi, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r holiadur hwn. Bydd eich atebion yn cael eu rhannu ag aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Bydd y cwestiynau isod a’ch atebion iddynt yn sail i’n trafodaeth yn ystod y sesiwn. Sylwer y gall Aelodau benderfynu gwyro oddi wrth y strwythur hwn, yn dibynnu ar eich atebion i’r holiadur a'r sesiwn dystiolaeth gyhoeddus.
3. Gofynnir ichi ddychwelyd yr holiadur wedi'i gwblhau drwy e-bost i SeneddDiwylliant@senedd.cymru erbyn 16.00 ar 5 Hydref 2022. Nid oes yn rhaid i chi gadw eich atebion o fewn nifer cyfyngedig o eiriau ond nid ydym yn argymell eich bod yn ysgrifennu mwy na dau baragraff ar gyfer pob cwestiwn.
4. Sylwer, oni chytunir fel arall, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi'r holl wybodaeth a gyflwynir iddo, gan gynnwys yr holiadur hwn.
5. Os oes gennych gwestiynau, mae croeso ichi anfon e-bost at y Clerc yn SeneddDiwylliant@senedd.cymru.
Tell us a little bit about yourself and your background (for committee session). |
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi eich hun a'ch cefndir (ar gyfer sesiwn y pwyllgor). |
Fe’m ganed a’m magwyd yn Nhreforus, ger Abertawe, a derbyniais fy addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Yn dilyn hynny es i’r Brifysgol yn Aberystwyth a graddio yn y Gymraeg, a derbyn gradd bellach ar ddatblygiad y nofel Gymraeg. Ers hynny rwyf wedi dal amryw o swyddi sydd wedi cyfuno fy niddordeb yn y celfyddydau ac yn y Gymraeg, gan gynnwys gweithio i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn dod yn Brif Weithredwr ar Urdd Gobaith Cymru am 12 o flynyddoedd ac ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am 6 mlynedd. |
|
Question 1: What is your motivation for applying to be the Welsh Language Commissioner?
|
Cwestiwn 1: Beth yw eich cymhelliant dros wneud cais i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg? |
Rwyf am weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, yn iaith y mae pobl yn mwynhau ei defnyddio ac yn gallu ei defnyddio yn ddi-rwystr bob dydd. Rwyf yn ffodus fy mod oherwydd fy amgylchiadau teuluol a’m gwaith yn gallu byw trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifddinas Cymru, ond gwn nad pawb sy’n cael yr un profiad. Mae gwarchod a datblygu cymunedau, gofodau, a chymdeithasau ble gall pobl siarad Cymraeg yn ddi-rwystr yn hanfodol i’w dyfodol bywiog hi. Dylai pobl ble bynnag y mae’n nhw’n byw yng Nghymru allu mwynhau siarad Cymraeg. Byddwn am ystyried sut y gellir defnyddio pwerau a rôl y Comisiynydd orau er mwyn sicrhau bod gan fwy o bobl gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a’n bod yn rhoi cyfleoedd ystyrlon, er enghraifft, i bobl ifanc sy’n dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau.
Rwyf o’r farn fod y Gymraeg yn drysor sy’n perthyn i bawb yng Nghymru. Fel pob trysor mae angen gofalu amdano. Ni fyddwn am ei weld mewn amgueddfa draddodiadol – ond hoffwn ei weld yn cael ei ddefnyddio a’i ddathlu.
|
|
Question 2: Why do you think you are well-suited for the role?
|
Cwestiwn 2: Pam ydych chi o'r farn eich bod chi’n ymgeisydd addas ar gyfer y rôl hon? |
Trwy fy swyddi blaenorol, rwyf wedi datblygu dealltwriaeth dda o hyfywedd cymunedau, siaradwyr a siaradwyr newydd y Gymraeg ym mhob rhan o Gymru. Rwy’n sylweddoli o fod wedi gweld llwyddiant y trawsnewidiad digidol yn y sector Dysgu Cymraeg y gall y cymunedau hynny gynnwys cymunedau digidol, erbyn hyn.
Mae gennyf brofiad o fod yn Brif Weithredwr ar ddau sefydliad cenedlaethol ers deunaw o flynyddoedd. Dros y cyfnod hwnnw rwyf wedi cydweithio’n hapus gyda llawer o gydweithwyr a gwirfoddolwyr. Mae fy ngwaith wedi golygu fy mod wedi datblygu sgiliau o ran gosod cyfeiriad a datblygu sefydliadau, annog a chymell cydweithwyr, sicrhau rheolaeth dda o arian ac adnoddau, ac rwyf wedi gallu datblygu prosiectau amrywiol yn llwyddiannus. Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi mwynhau rhoi cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ ar waith sy’n cynnig cyfleoedd i weithwyr ddysgu’r Gymraeg yn ddi-gost, ac rwy’n gyffrous am y cynlluniau newydd i ddenu pobl ifanc i ddysgu’r Gymraeg, neu i ail-gydio. Rwyf wedi rhoi blaenoriaeth yn fy holl swyddi ar ymgysylltu gyda’r cyhoedd a rhoi cyfleoedd i bawb gymryd rhan beth bynnag yw eu cefndir. Gydag Urdd Gobaith Cymru roedd hynny’n cynnwys denu arian sylweddol allanol i gynnal prosiectau cyffrous i bobl ifanc o ardaloedd difreintiedig, prosiect yr oeddwn yn falch iawn ohono.
Byddwn wrth fy modd yn dod â’m hymroddiad, brwdfrydedd, a phrofiad i waith Swyddfa’r Comisiynydd gan wneud y cyfraniad gorau posibl i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
|
|
Question 3: What are the three main outcomes that you want to achieve during your tenure?
|
Cwestiwn 3: Beth yw’r tri phrif beth ydych chi am eu cyflawni yn ystod eich cyfnod yn y rôl?
|
1. Byddwn am sicrhau bod defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu o ganlyniad i fy ngwaith fel Comisiynydd y Gymraeg. Byddwn am sicrhau, nid yn unig bod mwy o wasanaethau Cymraeg ar gael o ganlyniad i’r broses o osod a monitro Safonau, ond bod defnydd cynyddol yn cael eu gwneud o’r gwasanaethau hynny wrth i’r gwasanaethau ddod yn fwy cyffredin a hygyrch i bobl. 2. Byddwn am sicrhau bod y pwerau sydd gan Swyddfa’r Comisiynydd yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial, gan sicrhau bod y gwaith o rheoleiddio sefydliadau sy’n dod o dan y drefn o osod Safonau’r Gymraeg yn cael ei wneud yn gadarn ond yn gymesur. Fy nod fyddai cynorthwyo sefydliadau i fod yn uchelgeisiol yn eu dehongliad o’r safonau, gan gynnig y gwasanaethau gorau posibl i’r cyhoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. 3. Byddwn am sicrhau bod y Comisiynydd yn chwarae ei rhan yn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg, gan gefnogi Strategaeth Cymraeg 2050 yn llawn, gan archwilio beth sy’n bosibl o ran cydweithio gydag eraill i sicrhau bod mwy o bobl yn mwynhau defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau cymdeithasol, gan gynnwys wrth ymwneud â’r celfyddydau a’r cyfryngau a thechnoleg. Nid iaith ymwneud â sefydliadau cyhoeddus yn unig ddylai’r Gymraeg fod - ond iaith mwynhau a iaith hwyl.
|
|
Question 4: How will you work with individuals and organisations that support and promote the Welsh language, and organisations required to comply with Welsh language duties?
|
Cwestiwn 4: Sut fyddwch chi’n gweithio gydag unigolion a sefydliadau sy’n hybu a chefnogi’r Gymraeg, yn ogystal â sefydliadau y mae’n ofynnol arnynt i gydymffurfio â dyletswyddau’r Gymraeg? |
Rwyf wedi mwynhau gweithio mewn partneriaeth trwy gydol fy ngyrfa. Mae arolygwyr allanol wedi nodi bodi bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn llwyddo’n effeithiol iawn i greu ystod eang a chyfoethog o bartneriaethau i gynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ddysgu a defnyddio’r iaith Gymraeg mewn cyd-destunau ystyrlon. Byddwn am ddod â’r sgiliau o weithio mewn partneriaeth i waith Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Wrth wraidd hynny mae meithrin perthynas o gyd-ddealltwriaeth gyda sefydliadau eraill, gan ddeall sut y mae modd cefnogi’n gilydd i gyflawni ein hamcanion. Byddwn am feithrin perthynas agored, cydweithredol gyda unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi a chynyddu defnydd o’r Gymraeg gan ddeall beth yw eu blaenoriaethau, a sut allant gynorthwyo i gynyddu defnydd eu rhanddeiliaid hwy o’r gwasanaethau eraill sydd ar gael. Rwy’n deall bod heriau ac anghenion gwahanol gan y sector breifat, y sector wirfoddol a’r sector gyhoeddus – ac mae lle i’r Comisiynydd ddatblygu ei berthynas â hwy ymhellach, ac i’w cynorthwyo. O ran y sefydliadau mae’n ofynnol arnynt i gydymffurfio â dyletswyddau penodol, byddwn am feithrin yr un berthynas o gyd-ymddiriedaeth, ac o gefnogaeth iddynt wrth iddynt ymgymryd â’r gwaith o drawsnewid eu gwasanaethau. Byddwn am iddynt ddeall er bod dyletswyddau rheoleiddio a safonau penodol y mae’r Comisiynydd yn disgwyl iddynt eu cyrraedd, bod cefnogaeth ar gael i gynorthwyo gyda materion megis cynllunio gweithlu, a datblygu strategaeth – pru’n ai gan Swyddfa’r Comisiynydd ei hunan – neu drwy fynegbostio a rhannu gwybodaeth ac arfer dda.
|
|
Question 5: How will you ensure that you maintain your independence from the Welsh Government, whilst also influencing and holding the government to account on areas of priority for Welsh speakers?
|
Cwestiwn 5: Sut fyddwch chi’n sicrhau eich bod yn cynnal eich annibyniaeth ar Lywodraeth Cymru, tra hefyd yn ceisio dylanwadu ar y Llywodraeth a’i dwyn i gyfrif ar feysydd blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg? |
Rwy’n hollol ymwybodol o bwysigrwydd sicrhau bod y Comisiynydd yn lais annibynnol o Lywodraeth sy’n gwarchod buddiannau siaradwyr Cymraeg a darpar siaradwyr Cymraeg. Gellir dadlau mai Llywodraeth Cymru yw’r corff pwysicaf a mwyaf ei ddylanwad, y mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am ei rheoleiddio – ac mae’n holl bwysig bod y rheoleiddio hwnnw yn cael ei wneud o ddifrif, ac yn drwyadl. Rwy’n sylweddoli hefyd bod cyfrifoldebau penodol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth ar gyfer y Gymraeg, a’i fod yn bwysig fod y Comisiynydd yn lais annibynnol sy’n craffu arno. Nid oes neb, fodd bynnag, yn gweithio mewn gwagle. Mae cynnal perthynas gefnogol i Lywodraeth Cymru hefyd yn bwysig. Gwn o brofiad bod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei gyfrifoldebau i ddatblygu sgiliau Cymraeg ei staff o ddifrif a’i fod wedi dechrau cymryd camau cadarnhaol, er bod ffordd i fynd, wrth gwrs. Credaf fod y Comisiynydd mewn lle da i gynghori Llywodraeth Cymru ar y prif flaenoriaethau er mwyn sicrhau bod cyfleoedd a dymuniad pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael ei fodloni. Byddwn yn sicr yn barod i fynegi fy marn yn annibynnol, a byddwn am bwyso ar fy Mhanel Cynghori i’m cynorthwyo yn y gwaith yma, a sicrhau bod gan Swyddfa’r Gomisiynydd ddulliau o ddarganfod barn siaradwyr a siaradwyr newydd am eu blaenoriaethau hwy. Mae annibyniaeth y Comisiynydd wedi ei warchod trwy’r Mesur ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhoi sicrwydd i’r Comisiynydd y gall feirniadu a herio os oes angen. |
|
Question 6: How will you work with Senedd Members, Senedd committees and other stakeholders?
|
Cwestiwn 6: Sut fyddwch chi’n gweithio gydag Aelodau o’r Senedd, pwyllgorau’r Senedd a rhanddeiliaid eraill? |
Yn fy ngwaith hyd yma, rwyf bob amser wedi ymateb yn gadarnhaol i ymholiadau am wybodaeth, neu am gyfraniadau i ymchwiliadau gan Aelodau o’r Senedd, pwyllgorau’r Senedd a rhanddeiliaid eraill. Byddwn am barhau i wneud hynny yn y rôl hon gan baratoi papurau allai fod o gymorth cefndirol, a bod yn barod i drafod neu i rhoi tystiolaeth ar unrhyw adeg.
Er tryloywder rwyf ar hyn o bryd yn Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru, yn Aelod o Banel sy’n cynnal Arolwg Teilwredig o Amgueddfa Cymru ac yn aelod o Dyfodol. Byddwn yn ymddiswyddo o’rhain cyn i mi gael fy mhenodi.
Fy nod fyddai gweithio mewn dull tryloyw ac agored bob amser.
|
6. Mae Gweinidogion Cymru a'r Senedd wedi cytuno y dylai Pwyllgorau perthnasol y Senedd gynnal sesiynau craffu cyn penodi Cadeiryddion/Comisiynwyr penodol i gynyddu ymhellach tryloywder y broses penodiadau cyhoeddus a’r gwaith craffu sy’n gysylltiedig â’r broses hon. Bydd y gwaith craffu hwn yn digwydd ar ffurf gwrandawiad 45 munud o hyd, mewn sesiwn gyhoeddus, ar gyfer yr ymgeisydd a ffefrir.
7. Fel rhan o’r broses recriwtio, byddwch wedi cael gwybod eisoes bod Pwyllgorau’r Senedd yn gallu dewis cynnal gwrandawiad ar gyfer penodiadau arwyddocaol gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn un o’r rolau hyn.
8. Fel rhan o’i rôl, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd a ffefrir fod yn destun gwaith craffu seneddol a chyhoeddus. Mae’r gwrandawiad hwn yn gyfle i brofi’r broses hon. Mae’r meysydd trafod yn ystod y gwrandawiad yn fater i aelodau’r Pwyllgor; fodd bynnag, byddant fel arfer yn ymdrin â:
§ chymhwysedd proffesiynol yr ymgeisydd;
§ annibyniaeth bersonol yr ymgeisydd;
§ sut y bydd yr unigolyn dan sylw yn bwriadu ymgymryd â'r rôl (er enghraifft, drwy feithrin perthynas â rhanddeiliaid mewnol ac allanol a gweithio gyda Llywodraeth Cymru); a’r
§ profiad a'r arbenigedd y byddent yn eu cyfrannu at y rôl.
9. Ni ddisgwylir i’r ymgeisydd ddeall prosesau manwl y corff y bydd yn gyfrifol amdano, sef, yn yr achos hwn, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, er y gallai cwestiynau ar y prosesau hyn fod yn rhan o sesiynau tystiolaeth a gynhelir ar ôl i’r unigolyn perthnasol ddechrau yn ei swydd.
10. O leiaf wythnos cyn y dyddiad a drefnwyd ar gyfer y gwrandawiad, sef 13 Hydref 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi enw a manylion perthnasol (CV, datganiad personol, datganiad o ddiddordeb ac ati) yr ymgeisydd a ffefrir i’r Pwyllgor, ynghyd â gwybodaeth am y rôl, yn ogystal ag amlinelliad byr o’r modd y cynhaliwyd y broses recriwtio.
11. Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi briffio’r ymgeisydd a ffefrir ar natur y gwrandawiad cyn penodi ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae croeso i ymgeiswyr siarad yn uniongyrchol â Chlerc y Pwyllgor i drafod dull gweithredu tebygol y Pwyllgor. Os hoffech siarad â’r Clerc am eich gwrandawiad, anfonwch e-bost at seneddddiwylliant@senedd.cymru.
12. Yn dilyn y gwrandawiad, bydd Clerc y Pwyllgor yn ysgrifennu crynodeb o sylwadau'r Pwyllgor ac yn anfon yr adroddiad hwn at Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru o fewn 48 awr. Bydd yr adroddiad yn nodi barn y Pwyllgor ar ba mor addas yw’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y rôl.
13. Bydd yr ymgeisydd a ffefrir a’r Gweinidog fel arfer yn cael copi o’r adroddiad o dan embargo am gyfnod o 24 awr i roi amser iddynt ystyried yr adroddiad ac, os oes angen, paratoi ymateb i unrhyw bwyntiau penodol sydd ynddo.
14. Yna, bydd y Gweinidog yn pwyso a mesur barn y Pwyllgor yn ofalus yn erbyn y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y broses benodi er mwyn dod i farn derfynol, i sicrhau bod y penderfyniad yn cael ei wneud yn deg a rhoi sylw i’r holl ystyriaethau perthnasol.
15. Mater i'r Gweinidog yw penderfynu a yw am dderbyn argymhellion y Pwyllgor ynghylch penodiad ai peidio. Rhaid i’r Gweinidog ystyried unrhyw sylwadau perthnasol y mae’r Pwyllgor yn eu gwneud cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r penodiad.